Mae dyn 21 o ynys Skye yn yr Alban wedi marw ar faes saethu yng Ngwlad Thai.
Yn ôl adroddiadau, roedd Liam Colven, 21, wedi saethu ei hun.
Funudau’n unig cyn ei farwolaeth, roedd tystion wedi’i glywed yn ffraeo â rhywun ar ei ffôn symudol.
Yn dilyn y ffrae, saethodd ei ddryll tuag at darged a’i tharo saith gwaith cyn saethu ei hun yn ei ben.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Gallwn gadarnhau marwolaeth Prydeiniwr yng Ngwlad Thai ac rydym yn cynnig cymorth i’w deulu trwy ein conswl yn y cyfnod anodd hwn.”