Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ar y ffordd osgoi yn Y Felinheli y bore ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 3.20 y bore ma yn dilyn adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan gar.

Cafodd y ffordd ei chau yn dilyn y digwyddiad, ond mae hi bellach wedi cael ei hail-agor.

Bu farw un person yn y fan a’r lle, a chafodd tri o bobol oedd yn teithio yn y car eu cludo i Ysbyty Gwynedd â mân anafiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.