Mae’r cyflwynydd dadleuol Jeremy Clarkson wedi ymddangos ar fideo yn beirniadu penaethiaid y BBC.
Ond mae Clarkson yn dadlau mai jôc oedd ei sylwadau beirniadol yn ystod digwyddiad elusennol yn y Roundhouse yng ngogledd Llundain.
Cafodd Clarkson ei geryddu gan ei gyfreithiwr pan ddaeth i’r amlwg fod y digwyddiad wedi cael ei ffilmio.
Yn ei golofn yn y Sunday Times, dywedodd Clarkson: “Trwy fod yn gryno, yn ddadleuol a rhegi ychydig, fe wnes i ddihuno’r ystafell ac fe wnaeth y wobr ocsiwn ro’n i’n ei chynnig – un lap o gwmpas trac profi Top Gear – godi £100,000.”
Cafodd Clarkson ei wahardd gan y BBC yn dilyn adroddiadau ei fod e wedi taro cynhyrchydd Top Gear, Oisin Tymon ar ôl ffrae am fwyd.
Yn ystod y digwyddiad elusennol, dywedodd Clarkson: “Roedd rhestr aros o 18 mlynedd er mwyn cael bod yn y gynulleidfa ar gyfer Top Gear. Fe wyddoch fod y BBC wedi ff****’i hun, pwy sy’n rhoi ff**? Roedd yn rhaglen wych ac fe wnaethon nhw ei ff**** i fyny.”
Mae oddeutu 1 miliwn o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar y BBC i roi’r hawl i Clarkson ddychwelyd i’w waith.
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i’r BBC mewn tanc a gafodd ei yrru gan y ‘Stig’ ddydd Gwener.
Mae disgwyl i’r ymchwiliad i’w ymddygiad ddod i ben yr wythnos hon.