Mae gweithgor a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth yr Alban wedi galw am roi’r hawl i raddedigion o dramor dderbyn fisa i aros yn y wlad ar ôl i’w hastudiaethau ddod i ben.

Cafodd y gweithgor ei sefydlu yn 2014, ac mae ei adroddiad yn nodi manteision myfyrwyr o dramor i economi, cymdeithas a diwylliant yr Alban.

Mae gweinidogion yn yr Alban yn dweud bod eu polisi ar fewnfudwyr yn cael ei benderfynu gan Lywodraeth Prydain yn ne-ddwyrain Lloegr.

Holiadur

Mewn holiadur a gafodd ei lunio gan y gweithgor, nododd 90% o’r unigolion a gafodd eu holi eu bod nhw o blaid rhoi’r fisa ôl-astudio i fyfyrwyr o dramor.

Dywedodd 94% o unigolion oedd wedi cyflogi myfyriwr o dramor o dan gynlluniau tebyg yn y gorffennol eu bod nhw o blaid ail-gyflwyno’r fisa.

Dywedodd y mwyafrif eu bod nhw o blaid caniatâu i fyfyrwyr aros yn yr Alban am o leiaf ddwy flynedd i weithio ar ôl i’w hastudiaethau ddod i ben, ac roedd 70% yn cefnogi ymestyn y fisa ar ôl y ddwy flynedd gyntaf.

O dan y drefn bresennol yn y DU, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr tramor adael yr Alban yn syth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Mae’r gweithgor hefyd yn awgrymu y dylai’r ddwy flynedd o waith gyfrannu tuag at y bum mlynedd sy’n orfodol cyn gwneud cais am ddinasyddiaeth.

Dywedodd yr Athro Pete Downes ar ran Universities Scotland, sy’n cydlynu’r 19 o sefydliadau addysg uwch yn yr Alban: “Mae’r achos o blaid caniatâu i fyfyrwyr rhyngwladol weithio yn yr Alban ar ôl cwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus yn rhagorol ac mae’r manteision i’r Alban yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’n prifysgolion ac yn cyfoethogi ein cymdeithas, ein diwylliant a’n heconomi.”