Ali Abdullah Saleh
Mae lluoedd Shiaidd wedi cipio Taiz, trydedd dinas fwyaf Yemen.

Mae’r gwrthryfelwyr hefyd wedi cipio maes awyr y ddinas, ddiwrnod yn unig wedi iddyn nhw alw am weithredu yn erbyn lluoedd sy’n cefnogi’r arlywydd presennol, Abed Rabbo Mansour Hadi.

Roedd Hadi newydd areithio am y tro cyntaf ers ffoi i ddinas Aden yn ne’r wlad fis diwethaf.

Ond mae’r lluoedd arbennig yn Taiz yn gwrthod ei gydnabod yn arlywydd dilys.

Mae miloedd o bobol wedi ymgasglu ar strydoedd Taiz er mwyn protestio yn erbyn y gwrthryfelwyr a’r cyn-arlywydd, Ali Abdullah Saleh.