Fe fydd gwasanaeth a gorymdaith arbennig yn cael eu cynnal heddiw wrth i ddinas Caerlŷr baratoi i gladdu gweddillion y brenin Richard III.

Bydd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol y ddinas heddiw cyn gorymdaith ger safle Bosworth lle bu farw’r brenin yn 1485.

Bydd ei weddillion yn cael eu cludo trwy’r ddinas cyn y gwasanaeth sy’n cael ei arwain gan Archesgob Catholig San Steffan, y Cardinal Vincent Nichols.

Dywedodd Egsob Caerlŷr, Tim Stevens y byddai’r gwasanaeth heddiw’n “foment emosiynol”.

“Mae’n digwydd wrth i’r haul fachlud ac wrth i feddyliau pobol droi bob amser tua’r nos a’r posibilirwydd o farw.

“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i atgoffa pobol o’r foment eithriadol yn hanes Lloegr sy’n cael ei symboleiddio gan farwolaeth Richard III.”

Cafodd y gweddillion eu darganfod o dan faes parcio yn ninas Caerlŷr yn 2012, ar y safle lle bu farw’r brenin yn ystod brwydr Bosworth, un o brif frwydrau Rhyfel y Rhosod.

Mae heddiw hefyd yn nodi’r achlysur pan fydd ei weddillion yn cael eu trosglwyddo o Brifysgol Caerlŷr i ofal yr Eglwys Gadeiriol.

Fe fu ffrae ynghylch lle byddai’r brenin yn cael ei gladdu ar ôl i rai o’i berthnasau herio’r penderfyniad i’w gladdu yng Nghaerlŷr.

Roedden nhw’n honni y byddai Caerefrog yn le mwy addas, ond cafodd eu cais ei wrthod gan farnwyr.