Fe fydd ail wylnos yn cael ei chynnal heno i Cameron Comey o Danerdy yng Nghaerfyrddin.

Diflanodd y bachgen 11 oed ger afon Tywi ar Chwefror 17.

Mae lle i gredu ei fod wedi cwympo i mewn i’r afon tra’n chwarae ger ei gartref.

Ymgasglodd cannoedd o bobol ar Bont King Morgan bron i fis yn ôl ar gyfer yr wylnos gyntaf yn dilyn ei ddiflaniad.

Cafodd canhwyllau eu gosod a llusernau eu hanfon i’r awyr yn ystod yr wylnos gyntaf.