Mae ymgeisydd seneddol o’r Blaid Geidwadol wedi cael ei wahardd tros gynllwyn honedig gyda’r English Defence League i ennill pleidleisiau trwy annog hiliaeth.

Mae Afzal Amin wedi’i gyhuddo o gynllwynio i gyhoeddi gorymdaith yn erbyn codi mosg yn etholaeth Gogledd Dudley yng Nghanolbarth Lloegr.

Ond yn ôl papur newydd y Daily Mail, y bwriad oedd i’r brotest gael ei chanslo, ac fe fyddai Afzal Amin wedi cymryd y clod am ei hatal.

Yn gyfnewid, addawodd Amin y byddai’n rhoi llais i’r EDL yn San Steffan.

Cafodd Amin ei ffilmio yn trafod y cynllwyn, ac mae disgwyl iddo wynebu gwrandawiad disgyblu ddydd Mawrth.

Wrth gael ei ffilmio’n gudd, dywedodd Amin: “Dyma fy ffantasi. Pe bawn i’n gallu dangos i bobol Dudley y galla i fod yn lais positif ar gyfer tynnu’r gymuned ynghyd, ar gyfer datblygiad, ar gyfer ymgyrchu yn erbyn drygioni a brawychiaeth a chamdrin plant…. yna fe fyddai hynny’n fy helpu yn yr etholiad sydd i ddod.”

Mae talu unigolion i ganfasio mewn etholiadau’n drosedd o dan Ddeddf Cynrychioli Pobol 1983.