Mae disgwyl i’r Front National ennill nifer sylweddol o seddi yn etholiadau’r cynghorau yn Ffrainc heddiw.
Plaid genedlaethol Marine Le Pen yw’r ffefrynnau i gipio grym tros nifer fawr o gynghorau, a hynny ar draul y sosialwyr a’r ceidwadwyr.
Pe bai’r polau’n gywir, fe allai roi hwb i’r Front National cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2017, pan fo disgwyl i Le Pen sefyll fel ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth.
Daeth y blaid i amlygrwydd o dan arweiniad tad Le Pen, Jean-Marie pan gyhoeddodd faniffesto gwrth-fewnfudwyr, gwrth-Islamaidd a gwrth-Undeb Ewropeaidd.
Bydd enillwyr y bleidlais heddiw yn symud ymlaen i’r ail rownd, sy’n cael ei chynnal ar Fawrth 29.
Mae enwau’r ymgeiswyr yn ymddangos ar bapurau pleidleisio mewn parau – un dyn, un ddynes, er mwyn sicrhau bod hanner yr enillwyr yn fenywod.