Mae Cyngor Busnes Caerdydd yn ystyried sefydlu car cêbl er mwyn cysylltu dinas Caerdydd a Phenarth.

Fe allai’r cynllun gwerth £100 miliwn olygu sefydlu pum milltir o rwydwaith.

Byddai hyd at 2,500 o deithwyr yr awr yn cael eu cludo mewn gondola allan o orsaf ganolog Caerdydd

Gallai’r cynllun gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’r sector preifat a chynllun City Deal a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor George Osborne yn ei Gyllideb ddydd Mercher.