Yr Eidal 20–61 Cymru
Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o hyd wedi iddynt roi crasfa iawn i’r Eidal yn y Stadio Olimpico yn Rhufain brynhawn Sadwrn.
Camodd Cymru i frig y tabl gyda’r fuddugoliaeth swmpus a rhoddodd wyth cais hwb sylweddol i’w gwahaniaeth pwyntiau cyn i’r Iwerddon a Lloegr chwarae. Yr unig siom i Gymru oedd y ffaith iddynt ildio cais hwyr sydd yn lleihau’r gwahaniaeth pwyntiau hwnnw.
Hanner Cyntaf
Cyfnewidiodd y ddau dîm giciau cosb yn y chwarter awr cyntaf, un yr un i Kelly Haimona a Luciano Orquera i’r Eidal a dwy i Gymru o droed Leigh Halfpenny.
Croesodd Jamie Roberts am gais cyntaf y gêm yn fuan wedyn pan adlamodd cic Halfpenny yn daclus i’w ddwylo cyn iddo groesi yn y gornel.
Pum munud yn unig barodd mantais Cymru serch hynny cyn i Giovanbattista Venditti hyrddio dros y gwyngalch o fôn ryc, ac roedd yr Eidalwyr ddau bwynt ar y blaen wedi trosiad Orquera.
Bu rhaid i Halfpenny adael y cae wedi hynny ar ôl rhoi ei ben yn y lle anghywir wrth geisio taclo 19 stôn o wythwr, a Dan Biggar yn hytrach felly a roddodd Cymru yn ôl ar y blaen gyda chic olaf yr hanner, 13-14 y sgôr.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner gyda chais i Liam Williams yn dilyn bylchiad da Rhys Webb ac roedd dwy sgôr rhwng y ddau dîm am y tro cyntaf wedi trosiad Biggar.
Chwaraeodd yr Eidal ugain munud gyda phedwar dyn ar ddeg wedi hynny yn dilyn cardiau melyn i Andrea Masi a Quintin Geldenhuys, a dyma pryd y manteisiodd Cymru.
Sgoriodd yr ymwelwyr chwe chais i gyd yn yr amser hwnnw, hatric naw munud i George North i ddechrau ac yna un yr un i Webb, Sam Warburton a Scott Williams.
Ymgais Scott Williams oedd y gorau o’r chwech wrth i’r eilydd gwblhau synudiad tîm a ddechreuodd ar linell gais Cymru.
Gyda’r Eidal yn ôl i bynmtheg dyn doedd Cymru ddim yn ei chael hi mor hawdd ac er iddynt geisio’u gorau glas i groesi am nawfed cais yn y munudau olaf, siom a gafwyd wrth i Leonardo Sarto redeg o’i hanner ei hun i groesi am gais fydd yn fawr o gysur i’r Eidal ond yn dipyn o gysur i’r Iwerddon a Lloegr.
Gorffennodd Cymru’r gêm ar frig y tabl gydag wyth pwynt a gwahaniaeth pwyntiau o +53. Bydd Iwerddon angen curo’r Alban o 21 pwynt i neidio dros Gymru, a Lloegr angen 17 pwynt yn fwy na Ffrainc yn eu gêm hwy. Amser a ddengys.
.
Yr Eidal
Ceisiau: Giovanbattista Venditti 24’, Leonardo Sarto 80’
Trosiadau: Luciano Orquera 26’, 80’
Ciciau Cosb: Kelly Haimona 2’, Luciano Orquera 11’
Cardiau Melyn: Andrea Masi 55’, Quintin Geldenhuys 65’
.
Cymru
Ceisiau: Jamie Roberts 18’, Liam Wiliams 48’, George North 50’, 55’, 59’, Rhys Webb 67’, Sam Warburton 69’, Scott Williams 74’
Trosiadau: Dan Biggar 48’, 50’, 55’, 59’, 70’, 74’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 8’, 13’. Dan Biggar 40’