Sergio Parisse
Gyda’r Chwe Gwlad yn dod i’w derfyn am flwyddyn arall, mae bechgyn Cymru yn gwybod mai dim ond buddugoliaeth swmpus yfory fydd yn cadw’u gobeithion o gipio’r Bencampwriaeth yn fyw.
Yr Eidal fydd y gwrthwynebwyr wrth i Warren Gatland a’i dîm geisio cipio trydedd tlws mewn pedair blynedd – ond fe fydd yn rhaid i’r Azzuri wneud heb eu capten gwefreiddiol, Sergio Parisse, ar gyfer y gêm.
Ar ôl colli un gêm yr un hyd yn hyn, Cymru, Iwerddon a Lloegr yw’r ceffylau blaen i ennill y bencampwriaeth.
Ond mae gan Gymru wahaniaeth pwyntiau o +12, sydd tipyn yn llai nac Iwerddon (+33), fydd yn teithio i’r Alban, a Lloegr (+37) sydd yn croesawu Ffrainc.
Bydd yn rhaid i’r crysau cochion roi digon o bwyntiau ar y bwrdd felly yng ngêm gyntaf y prynhawn am 12.30yp yn Rhufain, a gobeithio am ffafr gan yr Alban a Ffrainc.
Anaf i Sergio
Fe ddylai her Cymru fod yn haws yn dilyn y newyddion na fydd capten a chwaraewr gorau’r Eidal, y blaenasgellwr Sergio Parisse, yn ffit i chwarae fory.
Mae’r prop Matias Aguero hefyd wedi anafu sydd yn golygu bod Michele Rizzo o Gaerlŷr yn cael ei gyfle.
Ond mae maswr Zebre, Kelly Haimona, a’r prop profiadol Martin Castrogiovanni yn holliach ar ôl methu gêm ddiwetha’r Eidal.
Mae Samuel Vunisa yn dod i mewn yn lle Parisse, gyda Mauro Bergamasco yn cymryd y crys rhif saith a’r bachwr Leonardo Ghiraldini yn gapten ar y tîm.
Pencampwriaeth siomedig
Mae’r Eidal wedi bod yn siomedig yn y Chwe Gwlad eleni ar y cyfan, gan golli’n drwm i Loegr (52-11), Iwerddon (26-3) a Ffrainc (29-0).
Ond fe lwyddodd yr Azzuri i ennill yn annisgwyl oddi cartref yn erbyn yr Alban (19-22) , eu perfformiad gorau eleni.
Serch hynny fe fydd Cymru’n ffefrynnau cryf, ac yn gobeithio efelychu’r timau eraill sydd wedi ymweld â’r Stadio Olimpico eleni a dychwelyd gyda gwahaniaeth pwyntiau sylweddol.
Bydd yn rhaid i Gymru geisio ennill o dros 30 o bwyntiau os am siawns realistig o geisio ennill y Bencampwriaeth.
Ond maen nhw wedi gorffen y twrnament yn gryf o’r blaen, gan faeddu’r Alban 51-3 yn y gêm olaf y llynedd.
Dwy flynedd yn ôl cafodd Lloegr eu chwalu 30-3 wrth i Gymru gipio’r Chwe Gwlad, a hynny ar ôl colli’r gêm agoriadol – yn union fel eleni.
A fydd hanes yn ailadrodd ei hun? Fe fydd Warren Gatland a’r tîm yn sicr yn gobeithio hynny.
Tîm yr Eidal: L McLean (Sale); L Sarto (Zebre), L Morisi (Treviso), A Masi (Wasps), G Venditti (Zebre); K Haimona (Zebre), E Gori (Treviso); M Rizzo (Caerlŷr), L Ghiraldini (Caerlŷr, capt), M Castrogiovanni (Toulon), G Biagi (Zebre), J Furno (Newcastle), F Minto (Treviso), M Bergamasco (Zebre), S Vunisa (Zebre).
Eilyddion: A Manici (Zebre), A De Marchi (Sale Sharks), D Chistolini (Zebre), Q Geldenhuys (Zebre), R Barbieri (Leicester), G Palazzani (Zebre), L Orquera (Zebre), E Bacchin (Treviso).
Tîm Cymru: L Halfpenny (Toulon); G North (Northampton), J Davies (Clermont Auvergne), J Roberts (Racing Metro), L Williams (Scarlets); D Biggar (Gweilch), R Webb (Gweilch); R Evans (Scarlets), S Baldwin (Gweilch), A Jarvis (Gweilch), L Charteris (Racing Metro), A W Jones (Gweilch), D Lydiate (Gweilch), S Warburton (Gleision, capt), T Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: K Owens (Scarlets), R Gill (Saracens), S Andrews (Gleision), J Ball (Scarlets), J Tipuric (Gweilch), G Davies (Scarlets), R Priestland (Scarlets), S Williams (Scarlets).
Dyfarnwr: Chris Pollock (Seland Newydd).