Jeremy Clarkson
Mae’n debyg mai ‘The Stig’ wnaeth yrru’r tanc yn cludo deiseb – yn cefnogi Jeremy Clarkson – i bencadlys y BBC.

Nid yw’n hysbys pwy yw ‘The Stig’, gan ei fod yn ymddangos ar sioe Top Gear mewn helmed a byth yn yngan gair.

Fe deithiodd y tanc o San Steffan drwy ganol Llundain i New Broadcasting House y BBC.

Mae Jeremy Clarkson wedi ei wahardd o’i waith yn cyflwyno Top Gear ers iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi cael “ffracas” gydag un o gynhyrchwyr y sioe trafod ceir.

Ers ei sefydlu wythnos yn ôl gan y blogiwr gwleidyddol Guido Faulks, mae deiseb yn galw am ddychwelyd Clarkson i’r sgrîn wedi ei arwyddo gan bron i filiwn o bobol.