Antoinette Sandbach
Mae Aelod Cynulliad Torïaidd Gogledd Cymru Antoinette Sandbach wedi cyhoeddi ei bod hi’n ceisio am yr hawl i sefyll etholiad mewn sedd yn Lloegr.
Cafodd yr AC Ceidwadol ei henwi ar restr fer o dri i gynrychioli ei phlaid yn San Steffan ar ran etholaeth Eddisbury, Swydd Caer.
Mae Eddisbury yn sedd Geidwadol saff, ac fe fyddai Antoinette Sandbach yn debygol iawn o gael ei hethol yn Aelod Seneddol petai hi’n cael ei dewis gan y blaid i sefyll yno.
Dywedodd mewn datganiad y byddai’n rhoi ei chyflog fel Aelod Cynulliad i elusen yn ystod unrhyw ymgyrch i geisio cael ei hethol, ond dyw hi ddim wedi dweud os fyddai hi’n rhoi’r gorau i fod yn AC petai hi’n ennill yn Eddisbury.
Pan gysylltodd golwg360 i holi mwy, dywedodd ei swyddfa fod Antoinette Sandbach yn brysur drwy’r dydd heddiw ac nad oedd hi ar gael i ateb cwestiynau’r wasg.
“Cysylltiadau cryf” Cymru a Lloegr
Bydd yr AS Ceidwadol presennol, Stephen O’Brien, yn camu lawr ym mis Mai i wneud swydd gyda’r Cenhedloedd Unedig – roedd ganddo fwyafrif o dros 13,000 yn yr etholiad diwethaf.
Yn ôl Antoinette Sandbach mae’n awyddus i sefyll yn yr etholaeth yn Lloegr er mwyn cryfhau’r “cysylltiadau economaidd a chymdeithasol cryf” rhwng Swydd Gaer a gogledd Cymru.
Ond dyw hi ddim wedi cadarnhau a fyddai hi’n parhau fel Aelod Cynulliad yng Nghaerdydd petai hi’n cael ei hethol fel Aelod Seneddol yn San Steffan, gyda’r etholiadau Cynulliad nesaf yn 2016.
Nid hi fyddai’r gwleidydd cyntaf i symud o Gaerdydd i San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf – mae aelodau eraill o’i phlaid gan gynnwys David Davies ac Alun Cairns hefyd wedi mynd o fod yn AC i AS.
Beirniadu
Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol – ddaeth yn ail yn Eddisbury yn 2010 – eisoes wedi tynnu sylw at y cyhoeddiad, gan fynnu mai ef yw’r unig ymgeisydd hyd yn hyn sydd yn hanu o’r ardal.
“Mae gwleidydd Tori o ogledd Cymru, Antoinette Sandbach, ar y rhestr i Eddisbury; fi yw’r unig ymgeisydd sydd yn byw yma o’r prif bleidiau o hyd,” trydarodd Ian Priestner.