Mae trysorydd gafodd ei chyflogi i arbed arian i glwb rygbi wedi cael ei chyhuddo o ddwyn gwerth £16,000 o’r coffrau.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Diane Roberts, 33, wedi dwyn yr arian o Glwb Rygbi Llanilltud Fawr dros gyfnod o 20 mis ac wedi bron ag achosi i’r clwb fynd yn fethdalwr.

Roedd hi wedi ceisio cuddio’r twyll trwy ddweud bod yr arian yn cael ei roi i weithwyr eraill.

Fe wnaeth Diane Roberts o bentref Trebefered gyfaddef i gyhuddiad o dwyll rhwng mis Mawrth 2012 a mis Tachwedd 2013.

Dywedodd yr erlynydd ei bod ar rai adegau wedi cymryd hyd at £500 ar y tro o’r coffrau, ond wedi rhoi’r gorau i ddwyn ar ôl i swyddogion amau pam fod y clwb yn y coch.

Bu’n rhaid i benaethiaid ail-drafod gyda buddsoddwyr ac nid oedden nhw’n medru talu am olau newydd i’r cae rygbi.

Mae’r barnwr wedi gohirio’r achos am fis er mwyn rhoi cyfle i Diane Roberts ddychwelyd yr arian.