Jamie Roberts
Mae’r cawr o ganolwr Jamie Roberts yn cydnabod ei fod dan bwysau i gadw ei le yn nhîm Cymru, wedi i’r Scarlet Scott Williams gymryd ei le yn yr ail hanner yn erbyn Yr Iwerddon a sgorio cais.

Yn ôl Jamie Roberts fe fydd yr her o ddal ei afael ar ei grys Cymru yn ysbrydoliaeth iddo werth wynebu’r Eidal yn Rhufain yfory.

“Rydw i’n gwybod, os nad ydw i’n perfformio, bydd y crys yn mynd iddo ef,” meddai canolwr Racing Metro.

“Mae Scott yn chwaraewr gwych ac mae’n mwynhau tymor arbennig hyd yn hyn.

“Fe ddaeth ar y cae [yn erbyn Yr Iwerddon] a chwarae yn dda iawn. Mae hynny’n rhoi pwysau arna i…ac yn fy nghadw ar flaenau fy mysedd.”

Er bod angen i Gymru sgorio cyn gymaint o bwyntiau ag sy’n bosib yn erbyn Yr Eidal, er mwyn cipio’r Bencampwriaeth, mae Jamie Roberts yn dweud bod angen ar dop eu gêm “yn amddiffynnol yn ogystal ag wrth ymosod”.