Paul Gambaccini - wedi diodde'
Fe ddylai pobol yng Nghymru a Lloegr sy’n cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau rhyw gael yr hawl i aros yn ddienw nes eu bod yn cael eu cyhuddo, yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol.
Dim ond ond os oes gwirioneddol raid y dylai enwau gael eu cyhoeddi’n ffurfiol, meddai Pwyllgor Materion Cartref San Steffan, a ddylai plismyn ddim gollwng yr enwau i’r wasg dan unrhyw amgylchiadau.
“Fe ddylai troseddwyr honedig gael aros yn ddienw nes eu bod yn cael eu cyhuddo,” meddai cadeirydd y Pwyllgor, Keith Vaz.
“Mae’n annerbyniol bod gwybodaeth yn cael ei basio i’r wasg mewn ffordd answyddogol, amhriodol. Rydym wedi gweld pa mor ddinistriol y gall hyn fod.”
Cyfyngu ar fechnïaeth
Mae’r pwyllgor hefyd wedi awgrymu cyfyngu’r amser y bydd rhaid i bobol aros ar fechnïaeth i 28 diwrnod – rhag wynebu’r un amgylchiadau â’r darlledwr Paul Gambaccini.
Fe fyddai’n rhaid i uwch swyddog annibynnol wneud cais am gael ymestyn y cyfnod.
Roedd Paul Gambaccini wedi cael ei gadw ar fechniaeth am 12 mis cyn cael gwybod fod y cyhuddiadau yn ei erbyn wedi eu gollwng.
Roedd y cyflwynydd radio wedi dweud wrth aelodau’r pwyllgor ei fod wedi colli £200,000 mewn cyflog a chostau cyfreithiol yn ystod ei flwyddyn ar fechnïaeth gan nad oedd yn medru gweithio’n gyhoeddus.
‘Gorfod rhoi esboniad’
Wrth ymateb i awgrymiadau’r pwyllgor, dywedodd Paul Gambaccini: “Os yw hyn yn golygu bod miloedd o bobol yn osgoi profiad tebyg i fy un i, fe fydd wedi bod werth fy mlwyddyn ar fechniaeth.”
Fe ddylai Gwasanaeth Erlyn y Goron roi esboniad ysgrifenedig i unrhyw un sy’n cael eu cadw ar fechnïaeth am fwy na chwe mis heb eu cyhuddo wedyn, yn ôl Keith Vaz.
“Mae’n annerbyniol bod pobol yn cael eu cadw ar fechniaeth am fisoedd, hyd yn oed oes nad oes llawer o dystiolaeth, ac yna’n clywed fod yr achos yn cael ei ollwng,” meddai.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May ym mis Rhagfyr ei bod am ymgynghori ar gyfyngu mechnïaeth i 28 diwrnod yn y rhan fwyaf o achosion.