carchar
Carchar Caerdydd
Mae angen i Lywodraeth Prydain weithredu ar argymhellion iaith mewn adroddiad am garchardai yng Nghymru a Lloegr, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Maen nhw wedi croesawu adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig sy’n dweud bod angen casglu gwybodaeth ac asesu’r anghenion am wasanaethau Cymraeg i garcharorion.

Yng ngharchar mawr newydd Wrecsam, meddai’r Gymdeithas, fe ddylai’r holl wasanaethau fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Maen nhw hefyd yn dweud ei fod yn rhy fawr i anghenion Cymru.

Meddai’r Gymdeithas

“R’yn ni’n croesawu’r sylw y mae’r pwyllgor wedi ei roi i nifer o’r problemau difrifol sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg o fewn carchardai,” meddai llefarydd y Gymdeithas, Cen Llwyd, a gafodd ei garcharu sawl tro yn ystod yr 1970au.

“Does dim llawer wedi gwella ers degawdau; yn sicr, mae angen gwella’n sylweddol ar y ddarpariaeth bresennol sydd yn y carchardai yng Nghymru.”