Pobl ym Mae Caerdydd yn cael cip ar yr eclips heddiw (llun: Benjamin Wright/PA)
Mae disgwyl mai pobol yn ne Cymru fydd yn cael yr olwg orau o’r eclips cyntaf mewn degawd y bore ’ma.

Mae arbenigwyr yn proffwydo mai Libanus ym Mannau Brycheiniog yw un o’r llefydd gorau i weld y diffyg ar yr haul.

Yn ôl y  proffwydi fe fydd y lleuad yn symud o flaen yr haul gan orchuddio 97% o’i wyneb, a’r digwyddiad ar ei anterth tua 9:30 y bore ‘ma.

Fydd dim diffyg eto tan y flwyddyn 2090 ac mae sianeli teledu a radio wedi cynhyrfu’n lân gyda gohebwyr a chriwiau’n dilyn y datblygiadau.

Rhybudd

Ond mae arbenigwyr yn rhoi rhybudd clir am y peryglon o geisio edrych ar y diffyg. Yn sicr, medden nhw, ddylai neb geisio edrych arno gyda’r llygad noeth.

Er na fydd pawb yng Nghymru yn medru gweld y diffyg oherwydd cymylau, mae’r arbengiwr Kate Brown o’r Swyddfa Dywydd yn dweud y bydd pawb yn ymwybodol ei fod yn digwydd.

“Mae cymylau am rwystro rhai ardaloedd rhag gweld yr eclips ond hyd yn oed os nad yw pobol yn medru’i weld yn digwydd, fe fyddan nhw’n dal i deimlo ei bod hi’n dywyllach,” meddai.