Nigel Farage - wedi synnu
Mae un o aelodau plaid UKIP yn Senedd Ewrop wedi cael ei diarddel o’r blaid tros dro a’i hatal rhg sefyll trosti yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae Janice Atkinson, y darpar ymgeisydd yn sedd addawol Folkestone a Hythe yng Nghaint, wedi cael ei chyhuddo o ofyn am dderbyneb ffug er mwyn hawlio arian costau gan Senedd Ewrop.
Fe ddywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage, ei fod wedi “ei synnu” os oedd yr honiadau’n wir a bod ymchwiliad ar droed.
Adroddiad yn y Sun
Yn ôl papur y Sun, roedd Janic Atkinson wedi cael un o’i staff i ofyn i fwyty roi bil iddi oedd yn treblu cost go iawn un digwyddiad er mwyn hawlio’r swm ffug ar gyfer grŵp UKIP yn Ewrop.
Mae’r papur wedi trosglwyddo’r wybodaeth, sy’n cynnwys tystiolaeth fideo, i Heddlu Kent a Senedd Ewrop.
Roedd Janice Atkinson wedi gorfod ymddiheuro am ddigwyddiad o’r blaen pan oedd hi wedi defnyddio iaith sarhaus i ddisgrifio gwraigo Wlad Thai.
Datganiad gan UKIP
“Mae’r blaid yn rhyfeddol o siomedig gyda Ms Atkinson sytdd, yn ôl pob golwg, wedi bod yn annoeth iawn wrth weithredu mewn ffordd nad yw’r blaid yn ei gymeradwyo, ac na fyddai byth.
“Mae’r blaid wedi gweithredu’n gyflym ac ar unwaith. Byddwn wastad yn gwrthod yn llwyr weithredoedd o’r math yma.”