Alesha O'Connor gyda Rhodri Miller, gyrrwr y car
Mae tref y Barri yn dechrau ar bum niwrnod o alar gydag angladdau’r tri pherson ifanc a gafodd eu lladd yn y ddamwain fawr ar yr A470.

Fe fydd angladd Alesha O’Connor, 17, yn cael ei gynnal am hanner dydd heddiw yn Eglwys Babyddol Santes Helen, Y Barri. Roedd hi’n fyfyrwraig yng Ngholeg Dewi Sant Caerdydd.

Yfory y bydd angladd Rhodri Miller, 17, yn Eglwys Sant Cadog yn Nhregatwg, gyda gwasanaeth i Corey Price, 17, yn Eglwys y Santes Fair yn y Barri ddydd Mercher nesa’. Roedd y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.

Fe ddaeth  2,000 o bobol i wasanaeth coffa yn Y Barri i gofio amdanyn nhw’r wythnos diwethaf.

Y ddamwain

Bu farw’r tri mewn damwain ger y Storey Arms ym Mannau Brycheiniog ar 7 Mawrth.

Y gred yw fod Rhodi Miller yn gyrru car Volkswagen Golf gwyrdd, gyda’r ddau arall yn deithwyr – pan aeth yn erbyn  VW Golf du yn cael ei yrru gan wraig 68 oed, Margaret Challis.

Fe fu hithau farw ond does dim dyddiad wedi’i roi ar gyfer ei hangladd hi.

‘Arestio’

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd car y bobol ifanc yn un o res o geir yn cael eu gyrru “mewn confoi” ac mae saith o ddynion ifanc wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio’r diwrnod wedyn.