Gerald Holtham (Llun Sefydliad Materion Cymreig)
Fe fydd rhaid i Gymru benderfynu rhwng polisiau gofalus sy’n golygu cynnydd economaidd graddol neu fentro yn o gobaith o drawsnewid cyflwr y wlad.
Dyna’r awgrym mewn adroddiad newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig sy’n dweud bod angen twf tebyg i wledydd Dwyrain Ewrop ar ôl chwalu’r Llen Haearn er mwyn tanio economi Cymru.
Does dim arwyddion, medden nhw, fod polisïau Llywodraeth Cymru’n cael argraff fawr, gyda gwerth ychwanegol yr economi yn llai na thri chwarter y cyfartaledd trwy wleldydd Prydain ac yn is nag yn 1999.
Mae’r adroddiad yn galw am fuddsoddi mawr mewn prosiectau uchelgeisiol ac am newid agwedd.
Yr argymhellion
Mae’r adroddiad wedi’i greu gan Grŵp Economi’r Sefydliad dan gadeiryddiaeth yr economegydd Gerald Holtham, awdur adroddiadau am ddatganoli hefyd.
Ymhlith yr argymhellion, mae galwadau am:
- Fuddsoddi mewn Dinas Ranbarthoedd a phrosiectau fel cynllun trên Metro ardal Caerdydd.
- Annog cwmnïau mawr i brynu nwyddau gan gyflenwyr lleol.
- Fuddsoddi mewn miloedd o dai fforddadwy a gwneud tai eraill yn fwy effeithiol o ran ynni.
- Sicrhau bod Cymru’n hunangynhaliol o ran ynni gwyrdd.
Yn ôl y Llywodraeth, maen nhw’n creu amodau ar gyfer cynnydd economaidd.