Model cyfrifiadurol o garchar Wrecsam
Fe ddylai Llywodraeth Prydain ddysgu gwersi o garchardai eraill ac agor carchar newydd anferth Wrecsam o gam i gam.

Dyna farn y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan mewn adroddiad ar y gwasanaeth carchardai a throseddwyr o Gymru.

Maen nhw’n dweud bod angen osgoi enghraifft carchar newydd Oakwood yng nghanolbarth Lloegr lle mae helyntion wedi bod.

Yr ateb, meddai’r adroddiad, yw agor carchar Wrecsam yn raddol – wrth i un rhan lwyddo, agor y nesa’, yn hytrach na chael eu temtio i ruthro er mwyn cael rhagor o lefydd i garcharorion.

Holi am wasanaethau Cymraeg

Ymhlith argymhellion eraill mae galwad am gael gwell gwybodaeth am garcharorion Cymraeg eu hiaith.

Mae’r pwyllgor yn dweud y dylai Comisiynydd y Gymraeg, yr Aroilygaeth Garchardai, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr weithio gyda’i gilydd i fesur yr angen am wasanaethau Cymraeg trwy garchardai Cymru a Lloegr.

Gorlenwi

Maen nhw’n rhagweld mai un o’r problemau mawr yn y carchar yn Wrecsam – sydd i fod i agor yn 2017 – yw gorlenwi ac maen nhw’n galw am weithredu cyflym i osgoi hynny.

Mae gorlenwi’n waeth yng ngharchardai Caerdydd ac Abertawe nag yn y rhan fwya’ o garchardai  Lloegr ond, yn ôl y pwyllgor, mae carchardai Cymru’n perfformio’n well.

Yn ôl yr adroddiad fe ddylai pob un o’r tri bloc yn Wrecsam gael pennaeth ar wahân a’u cymeriad eu hunain.

Meddai’r Cadeirydd

“Roedden ni’n falch o weld bod carchardai yng Nghymru yn perfformio#n well na charchardai yn Lloegr er eu bod nhw’n llawer rhy lawn,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Aelod Seneddol Mynwy David Davies.

“Fe fydd y carchar newydd yn Wrecsam yn gwneud rhywfaint i ateb problem gorlenwi carchardai yng Nghymru ond fydd e ddim yn agos tan ddiwedd 2017.

“Os ydym am ddysgu gwersi’r gorffennol, rhaid iddo gael ei agor yn araf ac yn raddol. Ddylai’r pwysau i gael llefydd newydd yn rhy gyflym ddim peryglu llwyddiant ei agor.”