Ty'r Arglwyddi
Bu’n ddiwedd cyfnod i deulu’r cyn-brif weinidog David Lloyd George wrth i ganrif a chwarter o wasanaeth gan y teulu yn y Senedd ddod i ben.

Cafwyd araith gloi heddiw gan ŵyr y cyn-brif weinidog, William Lloyd-George neu Is-iarll Tenby, sy’n 87 oed.

Mae William Lloyd-George yn ymddeol fel aelod o Dy’r Arglwyddi fis Mai. Fe yw’r olaf o blith y teulu i wasanaethu yn y Senedd ar ôl iddo ddilyn ei dad, Gwilym Lloyd George, a’i fodryb, Megan.

Y cyfreithiwr o Lanystumdwy, David Lloyd George, oedd y cyntaf i gynrychioli’r teulu yn y Senedd ym 1890 a bu’n rhan o dwf y Blaid Ryddfrydol ledled Prydain.

Yn ddiweddarach, daeth yn brif weinidog Prydain ym 1916 hyd at 1922 – yr unig brif weinidog hyd heddiw i fod yn Gymro Cymraeg.

Dywedodd Is-iarll Tenby: “Bydd fy ymddeoliad yn dod a 125 o flynyddoedd o gynrychiolaeth o blith fy nheulu i ben. Does dim geiriau.”