David Hughes-Evans
Fe fydd dyn o Gaernarfon yn treulio pedair blynedd yn y carchar ar ôl cael ei gyhuddo o ymosodiad rhywiol hanesyddol ar ferch yn ei harddegau.
Fe benderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon bod David Hughes-Evans, 59, yn euog o’r drosedd, ddigwyddodd rhwng 1989 a 1991.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ddedfryd yn gysur i’r ferch, sydd wedi dangos cryfder cymeriad yn rhoi gwybod i’r heddlu a wynebu’r troseddwr,” meddai’r swyddog Bev Makanjee o CID Caernarfon.
“Mae’n bwysig i ddioddefwyr wybod y byddwn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau bod unrhyw droseddwr yn cael yr hyn mae’n ei haeddu, faint bynnag o flynyddoedd yn ôl ddigwyddodd y drosedd.”