Yr heddlu tu allan i Amgueddfa Bardo, yn Tunis, heddiw
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad brawychol ar amgueddfa yn Tunisia lle cafodd 23 o bobl eu lladd, gan gynnwys dynes o Sir Amwythig.

Fe ymddangosodd y datganiad ar wefan sy’n dangos negeseuon gan y grŵp eithafol.

Yn y cyfamser mae teulu Sally Adey, 57, a gafodd ei lladd yn yr ymosodiad, wedi dweud eu bod wedi “tristau yn ofnadwy” o glywed am ei marwolaeth.

Roedd y gyfreithwraig ar ymweliad ag Amgueddfa Bardo yn y brifddinas, Tunis gyda’i gwr, Robert, pan ddigwyddodd yr ymosodiad gan ddau ddyn arfog. Mae’n debyg na chafodd ei gwr ei anafu.

Roedd y cwpl ar wyliau ar fwrdd y llong hwylio MSC Splendida a oedd wedi cyrraedd porthladd Tunis yn gynnar ddoe.

Tristau

Mewn datganiad ar ran y teulu, dywedodd Julia Holden, o gwmni cyfreithwyr  Shakespeares Solicitors yn Birmingham: “Roedd Sally Adey yn ferch, gwraig a mam gariadus. Mae’r teulu wedi tristau yn ofnadwy.

“Maen nhw hefyd wedi tristau o glywed am y rhai eraill sydd wedi colli pobl maen nhw’n eu caru, a’r rhai sydd wedi cael eu hanafu.”

Dywedodd gweinidog iechyd Tunisia bod 18 o ymwelwyr o dramor wedi cael eu lladd yn yr ymosodiad gan gynnwys ymwelwyr o Japan, Colombia, yr Eidal, Awstralia, Ffrainc a Gwlad Pwyl.

Cafodd pump o bobl o Tunisia eu lladd, gan gynnwys y ddau ddyn arfog, Yassine Laabidi a Hatem Khachnaoui. Mae’n debyg bod Laabidi wedi bod yn hysbys i’r gwasanaethau cudd-wybodaeth, meddai’r Prif Weinidog Habib Essid.

Arestio naw o bobl

Mae naw o bobl bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad, yn ôl yr awdurdodau. Roedd pump o’r rhai gafodd eu harestio a chysylltiad uniongyrchol a’r ymosodiad, a phedwar o bobl eraill a chysylltiad â’r rhai oedd wedi cynnal yr ymosodiad.

Dywed cwmnïau teithio Thomson a First Choice eu bod nhw wedi canslo teithiau i Tunis dros y dyddiau nesaf “fel rhagofal.”

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi beirniadu’r ymosodiadau gan ddweud eu bod yn frawychus ac yn greulon.