Gwenno Williams
Gwenno Williams sydd yn edrych ar ymdrechion y pleidiau i ddenu etholwyr newydd …
Gyda minnau’n llances ifanc ar drothwy fy ugeiniau, eleni yw’r etholiad cyffredinol cyntaf lle byddwn i, a dros dair miliwn o bobl ifanc eraill, yn gymwys i bleidleisio.
Serch hyn, amcangyfrifir na fydd 59% o’r rhain yn trafferthu i fwrw pleidlais ar ddiwrnod yr etholiad.
Gyda chymaint o bleidiau i’w hystyried a diffyg addysg wleidyddol yn yr ysgol, does dim rhyfedd felly bod yr ifanc yn teimlo’n ddryslyd gyda systemau gwleidyddol Prydain.
Ond daw cyfle gyda phobl ifanc i ddenu cefnogwyr newydd i’r pleidiau a sicrhau ffyddlondeb gydol oes, oherwydd prin yw’r siawns o newid teyrngarwch pleidleiswyr hŷn sy’n dueddol o ddewis yr un hen blaid etholiad ar ôl etholiad.
Yn amlwg, byddai denu’r ifanc i’r balot yn fuddiol i bob plaid, ond pwy sydd wedi ymdrechu i gynnwys pobl ifanc yn eu hymgyrch etholiadol?
Snail mail
O ran y ffordd draddodiadol o gysylltu â phleidleiswyr, sef trwy’r post, dim ond Llafur sydd wedi mentro i ardal myfyrwyr Caerdydd.
Cawsom garden Nadolig i’n cyfarch, a rhyw bapur newydd ffug yn ddiweddar yn llawn penawdau’n sarhau’r Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion megis swyddi i’r ifanc.
Ar ddiwedd bob erthygl, roedd pwt bach yn dweud beth oedd polisïau Llafur am y mater dan sylw. Dyma oedd ffordd gyflym, er yn rhagfarnllyd, i’n haddysgu am bolisïau Llafur a fyddai o ddiddordeb i bobl ifanc.
Ond yn ein tŷ ni, os nad yw’r junk mail yn coupons am Dominos maen nhw’n diweddu yn y bin, felly prin yw’r siawns y byddai myfyrwyr eraill wedi trafferthu i’w darllen.
Gwario ar y we
Y ffordd orau o gyfathrebu â’r ifanc yw trwy’r we, gan fod traean o bobl rhwng 18 a 24 o’r farn bod gan y cyfryngau cymdeithasol y gallu i ddylanwadu ar eu pleidlais, yn ail yn unig i’r ddadl deledu.
Mae’r Torïaid wedi sylweddoli hyn, ac yn ôl pob sôn yn gwario £100,000 y mis ar ymgyrchoedd Facebook.
Ond er y gwariant swmpus yma, nid wyf wedi clywed unrhyw beth am bolisïau’r blaid ar unrhyw blatfform cymdeithasol, heb sôn am Facebook.
Yn anffodus, mae fy nghenhedlaeth i yn erfyn i bethau cael eu cyflwyno ar blât i ni. Os nad oes gennym ddiddordeb yn y pwnc, dydyn ni ddim yn mynd i drafferthu chwilio’r we am wybodaeth wleidyddol.
Rhaid i’r pleidiau dod â’r wybodaeth atom ni, boed hynny’n hysbysebion neu trwy greu cynnwys cyffrous y bydd pobl yn hoffi a rhannu er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Hysbyseb bachog
Dyma beth mae Plaid Cymru wedi’i wneud ar YouTube gyda ‘Rwy’n Pleidleisio Plaid’ – hysbyseb byr, llawn hiwmor sy’n ail-greu’r sefyllfa o ‘ddod mas’ i’ch teulu. Yn lle sôn am rywioldeb, mae’r bobl ifanc yn ‘dod mas’ fel cefnogwyr Plaid.
Mae’n fformat hwylus i gyflwyno maniffesto’r blaid, gyda phwyslais ar ennyn diddordeb pobl ifanc a busnesau bach. Fe wnes i ddarganfod y fideo ar ôl i nifer o’m ffrindiau ei rannu ar Twitter, sy’n dangos bod y blaid wedi llwyddo i gydio yn niddordeb yr ifanc. Gyda fideos y pleidiau eraill yn ddigon sych, mae’n braf gweld Plaid yn dilyn trywydd ffres a gwahanol.
Pechu
A beth am y gweddill? Dyw hi ddim yn ymddangos i mi fel petai’r Democratiaid Rhyddfrydol na’r Blaid Werdd wedi bod yn anelu eu hymgyrchoedd tuag at yr ifanc, ac mae’n hawdd deall pam.
Difethwyd unrhyw ffydd oedd gan yr ifanc yn y Lib Dems ar ôl iddynt dreblu ffioedd prifysgol ar ôl addo eu dileu.
Mae’r Blaid Werdd hefyd wedi pechu, gyda nifer o’m cyfoedion Cymraeg eu hiaith yn rhannu eu siom ar Twitter o ddarllen twît y Gwyrddion yn datgan nad oes lle i’r Gymraeg yn ei pholisïau gan ei bod am ganolbwyntio ar “broblemau ehangach dynoliaeth”.
Mae’n ymddangos felly bod sicrhau nad yw’r ifanc yn pleidleisio o gwbl, yn hytrach nac yn eu herbyn, yn golygu y bydd siawns gan y pleidiau yma i lwyddo yn yr etholiad.
Lledaenu’r neges
Ar y cyfan dim ond un blaid sydd wedi llwyddo i ledaenu ei syniadaeth ymysg yr hen a’r ifanc, sef UKIP.
Mewn arolwg diweddar, dywedodd 58% o bobl rhwng 18 a 24 mai UKIP yw’r blaid y maent yn ei chasáu fwyaf, a’u bod yn teimlo bod ei pholisïau’n perthyn i ddegawd arall.
Ond o leia’ mae gan bobl farn glir am UKIP, yn wahanol i nifer o’r pleidiau eraill lle mae’r arweinwyr yn cael eu hystyried yn rhy blaen ac yn rhy debyg i’w gilydd.
Felly mae’r rheswm pam nad yw’r ifanc yn pleidleisio yn glir – nid yw’r pleidiau ar y cyfan yn gwneud ymdrech i apelio atom, nac i’n cynnwys yn eu polisïau.
Mae hyn yn magu’r gred nad yw’n llais gwleidyddol ni o werth, gan arwain at ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Cred nifer bod y sefyllfa ar droi, gyda sefydliad mudiadau annibynnol fel Bite the Ballot a None of the Above.
Ond os ydyn ni am weld gwir newid yn agweddau’r ifanc tuag at bleidleisio, rhaid i’r gwleidyddion eu hunain gydnabod pwysigrwydd llais yr ifanc, a’u hargyhoeddi bod ganddynt botensial fel grym i newid canlyniad etholiad.
Mae Gwenno Williams yn fyfyrwraig fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.