Caerdydd
Roedd cwrteisi staff mewn gwestai yng Nghaerdydd ymhlith y gorau ym Mhrydain yn ôl arolwg.
Roedd yr holiadur gan gwmni Hotel.info wedi holi barn teithwyr ledled Ewrop am gwrteisi, cyfeillgarwch a chymhwysedd staff mewn gwestai yn Ewrop.
Daeth gwestai Caerdydd yn bedwerydd ymhlith y goreuon ym Mhrydain gyda sgôr o 8.31 o 10 o bwyntiau, gyda dinas Bryste, Leeds a Sheffield ar frig y rhestr.
Daeth gwestai Llundain yn olaf o blith prif ddinasoedd Ewrop, gyda phrifddinas Hwngari, Budapest yn dod i’r brig.
Dywedodd llefarydd ran Hotel.Info: “Mae cwrteisi pobl Prydain yn cael ei gydnabod dros y byd. Serch hynny, nid yw staff gwestai ym Mhrydain yn sgorio gystal mewn cymhariaeth gyda rhai Ewrop.
“Fe sgoriodd Sheffield yn dda o ran cyfeillgarwch a bod yn awyddus i helpu gwesteion.
Er hynny, nid oedd dwy ddinas fwyaf Prydain, Llundain a Birmingham, wedi gwneud yn dda o ran safon y gwasanaeth.”
Y dinasoedd a sgoriodd fwyaf o 10
1. Sheffield 8.62
2. Leeds 8.41
3. Bryste 8.36
4. Caerdydd 8.31
5. Caeredin 8.25
6. Lerpwl 8.20
7. Glasgow 8.18
8. Manceinion 7.95
9. Caerlŷr 7.75
10. Llundain 7.73
11. Birmingham 7.66
12. Coventry 7.38