Fe gafodd 46% yn fwy o ysbwriel ei gasglu ar bob cilometr o draethau Cymru yn 2013 – y lefel uchaf mewn 21 mlynedd.
Datgelodd arolwg blynyddol y Gymdeithas Gadwraeth Forol bod dwywaith a hanner yn fwy o ysbwriel na’r cyfartaledd Prydeinig i’w weld ar arfordir Cymru.
Ar ôl i wirfoddolwyr archwilio 300 o draethau Prydain, gwelwyd hefyd bod mwy a mwy o baby wipes yn cyrraedd y traethau gan eu bod cael eu rhoi i lawr y toiled yn fwy aml y dyddiau hyn yn ôl yr elusen.
Yr eitemau mwyaf cyffredin gafodd eu darganfod oedd darnau o blastig, poteli plastig, caniau diod alwminiwm ac offer pysgota.
Systemau carthffosiaeth
Yn sgil y cynnydd, mae’r Gymdeithas Gadwraeth Forol wedi galw ar Lywodraeth Prydain i wneud mwy i fynd i’r afael a’r broblem.
Esboniodd Charlotte Coombes o’r gymdeithas nad yw systemau carthffosiaeth Prydain wedi’u dylunio i ddelio a baby wipes:
“Nid ydyn nhw’n datgymalu fel papur toiled, ac maen nhw’n cynnwys plastig felly yn para am amser hir.
“Pan mae glaw trwm yn achosi gorlifo, neu os nad yw gwaith plymio wedi cael ei wneud yn iawn, fe all y sbwriel gael ei gludo yn syth i’r môr.”