Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond
Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi cadarnhau bod dynes o Brydain wedi cael ei lladd mewn ymosodiad brawychol yn Tunisia ddoe.

Mae nifer y rhai gafodd eu lladd gan ddynion arfog yn amgueddfa genedlaethol Bardo yn Tunis, bellach wedi cynyddu i 23, gan gynnwys 18 o dwristiaid o dramor.

Cafodd pump o bobl o Tunisia eu lladd, gan gynnwys dau ddyn arfog. Mae’r heddlu’n chwilio am ddau neu dri o bobl eraill a allai fod wedi bod yn rhan o’r ymosodiad.

Roedd Sally Adey, 57, o Sir Amwythig wedi bod yn ymweld â’r amgueddfa gyda’i gwr, Robert pan ddigwyddodd yr ymosodiad. Mae’n debyg na chafodd ei gwr ei anafu.

Dywedodd Philip Hammond: “Gyda thristwch, gallwn gadarnhau bod dynes o Brydain, Sally Adey, wedi marw yn yr  ymosodiad brawychol yn Tunisia ddoe.

“Mae staff consylaidd yn rhoi cymorth i’w theulu. Mae ein meddyliau gyda nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Mae pobl Tunisia yn falch iawn o’u newidiadau democrataidd ac ni ddylai ymosodiadau llwfr fel yr un a gafwyd ddoe, danseilio’r hyn maen nhw wedi ei gyflawni.

“Fe fues i’n siarad gyda’r Prif Weinidog Habib Essid i estyn cydymdeimlad i’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gan y weithred ffiaidd yma ac i’w sicrhau ein bod ni’n sefyll gyda’n gilydd yn erbyn brawychiaeth.”

Cafodd 44 o bobl hefyd eu hanafu yn un o’r ymosodiadau gwaethaf yn y wlad yn ystod y 13 mlynedd diwethaf.