Mae bachgen wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad difrifol ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd bore ma.
Roedd y bachgen, yn cerdded ar hyd yr A487 pan fu mewn gwrthdrawiad â char Peugeot 307. Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 8.54yb y bore ma.
Mae’r ffordd ar gau ar hyn o bryd ac mae’r traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Mae’r heddlu’n annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â swyddogion yn Uned Plismona Ffyrdd y Gorllewin ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod S038215.