Fe fydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi cyfres o fesurau newydd i fynd i’r afael a phobol gyfoethog sy’n defnyddio cyfrifon banc tramor er mwyn osgoi talu trethi.

Ar ôl gwneud y cyhoeddiad yn y Gyllideb ddoe, dywedodd y bydd y mesurau newydd – sy’n rhan o gynllun gwerth £5 biliwn – yn dod a sefydlogrwydd i wariant cyhoeddus.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol  wedi rhybuddio am “gynnydd sylweddol” yng nghyflymder y toriadau mewn gwariant cyhoeddus rhwng 2016 a 2018 ond mae George Osborne wedi dweud bod angen “sefydlogrwydd.”

Ychwanegodd y bydd rhan o’r arbedion gwerth £30 biliwn a gafodd eu hamlinellu yn y Gyllideb yn golygu toriadau o £12 biliwn mewn gwariant lles a £5 biliwn ar y mesurau osgoi trethi.

Ond mae hyn wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y bydden nhw’n lleihau’r diffyg ariannol mewn “ffordd fwy teg”.

‘Cyfraniad teg’

Ar raglen BBC1’s Breakfast y bore yma, dywedodd George Osborne  ei fod am “dargedu pobol sy’n osgoi talu trethi”.

“Fe fydd yn arf newydd i wneud yn siŵr fod pobol yn gwneud cyfraniad teg. Trwy wneud hynny fe allwn ni wedyn leihau’r diffyg ariannol mewn adrannau a’r arbedion sydd angen eu gwneud ar les.”