Gosod blodau tu allan i'r bwyty yn Goteborg
Mae dau ddyn yn eu 20au wedi’u saethu’n fawr a 15 person arall wedi’u hanafu yn Sweden yn dilyn ymosodiad mewn bwyty.

Mae heddlu yn ninas Goteborg wedi dweud eu bod yn credu y gall y digwyddiad fod yn gysylltiedig â gangiau.

Roedd bwyty Var Krog och Bar yn Biskopsgarden yn llawn pan ddechreuodd dynion arfog danio ergydion yno ddoe.

“Mae pobol ddiniwed wedi cael eu hanafu,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu Bjor Blixter, gan ychwanegu fod aelodau o gangiau lleol yn y  bwyty adeg y digwyddiad.

Nid yw’r heddlu wedi arestio unrhyw un mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd, ond mae sawl person yn cael eu holi.