Maes awyr Caerdydd
Mae cefnogwyr rygbi sydd wedi trefnu hedfan i’r Eidal i wylio Cymru’n chwarae dros y penwythnos yn wynebu oedi neu deithiau wedi’u canslo yn sgil streic gan weithwyr ym maes awyr Rhufain
Mae’r streic wedi’i threfnu ar gyfer yfory, pan fydd awyrennau o Gaerdydd yn cyrraedd y maes awyr, gan fod gweithwyr yn anhapus ynglŷn â chael gwared a swyddi.
Bydd Cymru yn chwarae eu gem olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y Stadio Olimpico ddydd Sadwrn.
Mae maes awyr Caerdydd wedi cynghori teithwyr i wneud yn siŵr bod eu teithiau ar amser ond i gario mlaen fel arfer os nad ydyn nhw’n clywed yn wahanol.
“Mae gennym sawl taith yn gadael ar gyfer Rhufain fory ac mae cwmnïau awyr yn ystyried symud y teithiau i’r oriau cyn i’r streic ddechrau,” meddai llefarydd ar ran maes awyr Caerdydd.
Ychwanegodd llefarydd ar ran British Airways: “Rydym yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn gwneud trefniadau i leihau effaith y streic.”