Mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi ei Gyllideb olaf o’r Senedd hon, gan ddweud wrth Aelodau Seneddol bod “Prydain yn sefyll yn gadarn unwaith eto”.

Ar ôl blynyddoedd o galedi ariannol, cyhoeddodd bod Prydain “allan o’r coch” ac y bydd toriadau ar wariant cyhoeddus yn dod i ben flwyddyn yn gynt na’r disgwyl os bydd y Ceidwadwyr mewn grym ar ôl yr etholiad.

Roedd y Canghellor yn benderfynol mai dyma’r Gyllideb orau ar gyfer dyfodol Prydain ac na ddylai’r llywodraeth nesa’ newid trywydd ar ôl etholiad mis Mai.

Y Gyllideb o gam i gam – blog byw

‘Haul yn gwenu’

“Mae’r haul yn dechrau gwenu eto,” meddai wrth i’w gefnogwyr ar y meinciau Torïaidd weiddi cefnogaeth.

Roedd hi hefyd yn gyllideb etholiad ac yntau’n mynnu ei bod yn gyllideb i bawb a bod y cyfoethog yn cyfrannu mwy na’u siâr at y gwelliant – ymgais i dynnu gwynt o hwyliau’r Blaid Lafur.

Ond ychydig funudau wedi i araith George Osborne ddod i ben, fe ddywedodd arweinydd y blaid Lafur Ed Miliband nad oes blwch mor fawr wedi bod rhwng geiriau’r Canghellor a’r gwirionedd erioed o’r blaen.

Y cyhoeddiadau

Dyma rai o’r prif bynciau:

Gwelliannau i’r de

Yn ôl y disgwyl, cyhoeddodd y Canghellor bod trafodaethau swyddogol wedi dechrau ar godi Lagŵn Llanw ym Mae Abertawe, fydd yn creu trydan i tua 150,000 o dai yn yr ardal.

Cyhoeddodd hefyd bod gwaith wedi dechrau ar gynllun dinas Caerdydd a bod bwriad i ostwng y tollau ar Bont Hafren yn 2018.

Lwfans Treth Bersonol

Dywedodd y bydd y Lwfans Treth Bersonol yn codi o £10,600 i £10,800 yn 2016-17 ac yna i £11,000 yn 2017-18.

Mae hynny’n golygu na fydd rhaid i rywun dalu treth ar gyflog sy’n llai na £10,800 y flwyddyn.

Cynilo

Ymysg y pynciau eraill oedd mesurau i roi cymorth i bobol sydd am gynilo’u harian, gydag ISA fwy hyblyg yn cael ei gyflwyno.

Fe fydd pobol yn medru cymryd arian o’u cyfri a’i roi yn ôl heb gael eu cosbi ac o’r Hydref ymlaen, ni fydd y banciau yn codi treth ar y £1000 cyntaf fydd yn cael ei roi i mewn i ISA chwaith.

Yn ogystal, fe fydd ISA yn cael ei gyflwyno i bobol sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf lle bydd y Llywodraeth yn talu £50 am bob £200 sy’n cael ei gynilo ar gyfer blaendal ar dy.

Cwrw

Y newyddion da i yrwyr yw bod y cynnydd yn y dreth petrol a ddylai fod wedi dod i rym ym mis Medi wedi cael ei ddiddymu.

Cyhoeddodd George Osborne hefyd y bydd y dreth ar gwrw yn gostwng 1c y peint, ac y bydd y dreth ar seidr a wisgi yn syrthio o 2%.

Ffermwyr

Fe fydd ffermwyr yn elwa gan y byddan nhw’n cael cyfnod o bum mlynedd i fesur cyfartaledd incwm at bwrpas treth yn hytrach na dwy flynedd.

Osgoi trethi

Fe wnaeth y Canghellor hefyd gyhoeddi mesurau i fynd i’r afael ag osgoi trethi sy’n cynnwys adolygiad o dreth etifeddiaeth.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn mynd i’r afael a’r bobol a’r busnesau sy’n ceisio osgoi talu trethi ac yn cyflwyno cyhuddiadau newydd. Bydd y rheolau newydd yn dod i rym ar 27 Mawrth.