Ed Miliband (PA)
Fydd pobol ddim yn credu mewn Cyllideb gan Lywodraeth sydd heb fod ar eu hochr nhw, yn ôl yr arweinydd Llafur.
Honnodd Ed Miliband nad oes blwch mor fawr wedi bod erioed rhwng geiriau’r Canghellor a gwirionedd bywyd y cyhoedd erioed o’r blaen.
Prif wendid y Gyllideb, yn ôl Ed Miliband, oedd nad oedd yn cyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd na buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Dyfyniadau Miliband
“Mae hon yn Gyllideb na fydd pobol yn ei chredu gan Lywodraeth sydd ddim ar eu hochor nhw – oherwydd eu record, oherwydd eu greddf, oherwydd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
“Ac yn bennaf, oherwydd nad yw’r Gyllideb, yn syfrdanol, yn sôn am fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd na’n gwasanaethau cymdeithasol.”
Aeth ymlaen i ymosod ar George Osborne am fethu darparu ar gyfer teuluoedd Prydain trwy beidio adeiladu digon a dai a chreu gormod o swyddi ar incwmn isel.