Mae cwmni cwrw mwya’ Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad yn y Gyllideb heddiw fod y dreth ar gwrw yn gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Daeth cadarnhad gan George Osborne fod ceiniog arall yn cael ei thynnu oddi ar y dreth ar gwrw.

Roedd y cyhoeddiad yn “dangos cefnogaeth go iawn i’r diwydiant cwrw a thafarndai”, meddai llefarydd o gwmni Brains yng Nghaerdydd.

Dyma’r trydydd gostyngiad yn olynol yn y dreth gwrw ac, yn ôl pobol yn y diwydiant, mae’r gostyngiadau wedi achub tua 1,000 o dafarndai yng ngwledydd Prydain.

‘Calonogol i gwsmeriaid’

Mae’r diwydiant yn “cynnal mwy na 50,000 o swyddi yng Nghymru ac yn cyfrannu dros £1 biliwn i’r economi leol,” meddai llefarydd Brains wrth Golwg360.

“Mae hyn yn newyddion calonogol hefyd i gwsmeriaid tafarndai ac fe fydd yn gwarchod swyddi yn y diwydiant yn y dyfodol.”Cafodd hyn ei ategu gan Gymdeithas y Bragwyr Annibynnol, a ddywedodd fod heddiw’n “ddiwrnod gwych” i’r diwydiant cwrw.

“Rydym yn cymeradwyo penderfyniad y Canghellor i gefnogi cwrw Prydain gyda’r trydydd toriad hanesyddol hwn yn y dreth gwrw.

“Mae’n cynnal momentwm toriadau 2013 a 2014 ac fe fydd yn rhoi hwb i dwf, cyflogaeth a buddsoddiad yn y sector bragu annibynnol.”