Ambiwlans Awyr Cymru wrth ei gwaith (llun yr elusen)
Daeth cadarnhad yn ystod Cyllideb y Canghellor George Osborne fod Ambiwlans Awyr Cymru am dderbyn £1.5 miliwn.
Mae’r arian ar gael trwy gronfa Libor, a gafodd ei sefydlu yn sgil dirwyon a ddeilliodd o’r sgandal bancio.
Daeth cadarnhad ganol mis Chwefror y byddai canghennau Ambiwlans Awyr ar draws gwledydd Prydain yn elwa o’r gronfa.
Tri hofrennydd
Mae disgwyl i Ambiwlans Awyr Cymru ddefnyddio’r arian i gael tri hofrennydd gwell, ac mae’r prif weithredwr Angela Hughes wedi croesawu’r cyhoeddiad.
Mewn datganiad, dywedodd: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y rhodd hwn a fydd yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i ddarparu gwasanaeth achub bywyd i bobol ledled Cymru.
“Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £6 miliwn bob blwyddyn i gynnal y gwasanaeth.
“Mae’r elusen yn gwbl ddibynnol ar gyfraniadau i’w gynnal.”