Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Canghellor George Osborne ei fod am ostwng y tollau ar bontydd Hafren.
Fe fu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ers rhai misoedd am ostwng y tollau, ac fe gafodd deiseb ei sefydlu ddechrau’r flwyddyn er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth Prydain.
Yn ei Gyllideb, cyhoeddodd George Osborne y byddai’r tollau’n gostwng o 2018 ymlaen.
Bydd y doll yn gostwng o £6.50 i £5.40 i geir ac o £13.10 i £5.40 ar gyfer faniau.
“Mae pontydd Hafren yn gyswllt hanfodol i Gymru – byddwn yn gostwng cyfraddau’r tollau o 2018 ymlaen ac yn dileu’r band uchaf ar gyfer faniau bychain a bysys,” meddai.
Y Llywodraeth ‘yn cyfaddef’
Mewn datganiad, dywedodd yr Aelod Seneddol Jenny Willott: “Dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod yr effaith andwyol y mae’r tollau hyn yn ei gael ar swyddi a busnesau ledled de Cymru, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr.
“Mae gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn gwthio’n galed am y cam cyntaf pwysig hwn, ac ni fyddai’n digwydd heb fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan o’r llywodraeth.”
Ond ychwanegodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i ddileu’r tollau’n gyfangwbl unwaith bydd y pontydd o dan berchnogaeth gyhoeddus wedi 2018.
“Byddai tynnu’r droed oddi ar bibell wynt economi Cymru’n arbed dros £1,000 i fudwyr ac yn rhoi hwb o filiynau o bunnoedd i’n heconomi,” meddai.