Ystafell yn yr amgueddfa (Bernard Gagnon CCA 3.0)
Mae wyth o bobol wedi cael eu saethu’n farw mewn amgueddfa ym mhrifddinas Tunisia.
Cafodd adeilad senedd y wlad yn Tunis ei wacáu yn dilyn yr ymosodiad ar amgueddfa genedlaethol Bardo, sy’n gartref i un o gasgliadau mosaic Rhufeinig mwya’r byd.
Mae adroddiadau bod tri o ddynion arfog wedi cymryd nifer o bobol yn wystlon yn yr amgueddfa.
Does dim manylion wedi eu cyhoeddi eto am y rhai sydd wedi marw.
Ymosodiadau braw
Collodd arlywydd y wlad rym yn dilyn coup yn 2011, ond fe fu nifer o ymosodiadau braw yn y wlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae gan Dunisia ganghennau o’r mudiadau Islamaidd ethafol, IS ac al-Qaida, ac mae nifer fawr o drigolion wedi ymuno ag IS yn Syria ac Irac.