Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPPC) yn ymchwilio i honiadau fod Scotland Yard wedi ceisio celu’r gwir am droseddau rhyw yn erbyn plant oherwydd eu bod yn cynnwys ASau a swyddogion yr heddlu.

Meddai’r IPPC ei fod yn ymchwilio i mewn i 14 achos sy’n cynnwys llygredd honedig yn yr Heddlu Metropolitan yn ymwneud â throseddau cam-drin plant o’r 1970au hyd at yr 2000au.

Dywedodd Sarah Green, dirprwy gadeirydd y IPCC, fod yr honiadau yn “peri pryder difrifol”.

Mae’r honiadau – a gafodd eu hatgyfeirio at yr IPCC gan yr Heddlu Metropolitan – yn cynnwys bod yr heddlu wedi atal tystiolaeth a rhwystro neu atal ymchwiliadau oherwydd eu bod yn cynnwys ASau a swyddogion yr heddlu.

Bydd yr IPCC nawr yn rheoli ymchwiliad arall sydd eisoes ar y gweill gan Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol y Met mewn i lygredd honedig gan yr heddlu.

Mae Scotland Yard hefyd yn ymchwilio mewn i’r honiadau gwreiddiol o gam-drin.

“Unigolion blaenllaw iawn”

Ymhlith yr 14 o atgyfeiriadau i’r IPCC mae’r honiad fod dogfen Seneddol, a gafodd ei ddarganfod yng nghartref pedoffilydd, yn cysylltu nifer o “unigolion blaenllaw iawn” gan gynnwys Aelodau Seneddol ac uwch swyddogion yr heddlu i gylch pedoffil, ond ni chafodd camau pellach eu cymryd ar y pryd.

Honiad arall yw bod achos un dioddefwr wedi ei newid i hepgor enw gwleidydd amlwg, ac un arall yw nad oedd unrhyw gamau pellach wedi eu cymryd i honiadau o gam-drin plant a oedd yn cynnwys cyn uwch swyddog Heddlu’r Met ac “aelodau pellach o’r sefydliad gan gynnwys barnwyr”.

Mae honiad arall hefyd fod yr ymchwiliad i ddynion ifanc oedd yn cael eu targedu yn Sgwâr Dolphin – adeilad fflatiau oedd boblogaidd gyda ASau – wedi cael ei stopio am fod yr heddlu wedi mynd yn “rhy agos at bobl amlwg”, dywedodd yr IPCC.