Mae teithwyr rheilffyrdd de Cymru wedi cael eu heffeithio gan oedi ar y gwasanaeth y bore yma oherwydd problemau signal.

Er bod y problemau gwaethaf yn Fratton yn Portsmouth, fe wnaeth hynny arwain broblemau mewn gorsafoedd yng Nghymru wrth i drennau First Great Western sy’n teithio o Lundain Paddington drwy Casnewydd i Gaerdydd ddioddef oedi yn sgil y problemau.

Bu oedi hefyd yng gnoirsafoedd Victoria a Waterloo yn Llundain.

Teithwyr oedd yn teithio gyda cwmniau First Great Western, South West Trains a Southern train fu’n cael eu heffeithio fwya, gyda rhai teithwyr yn gorfod aros am hyd at awr am eu tren.

Dywedodd Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol undeb trafnidiaeth yr RMT: “Mae heddiw wedi bod y fore ddiflas arall i gymudwyr gyda gwasanaethau i mewn i Lundain wedi malu unwaith eto.”