Mae milwyr Rwsia wedi lansio ymarfer milwrol enfawr yn yr Artig, fel rhan o’u hymdrechion i ehangu eu presenoldeb yn yr ardal.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Sergei Shoigu, bod yr ymgyrch yn cynnwys 38,000 o filwyr, dros 50 o longau a llongau tanfor a 110 o awyrennau.

Ar deledu Rwsieg, dywedodd asiantaethau newyddion bod yr Arlywydd Putin wedi gorchymyn yr ymarfer er mwyn mesur galw gwasanaethau milwrol gogledd Rwsia i drefnu milwyr ychwanegol o ganol Rwsia.

Ychwanegodd y Gweinidog Amddiffyn bod “bygythiadau a sialensau newydd” yn gofyn am gynyddu gallu’r lluoedd arfog.