Mae llanc 18 mlwydd wedi cael ei arestio yn ei gartref yn Birmingham ar amheuaeth o baratoi i deithio i Syria i ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), meddai Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Cafodd ei arestio gan swyddogion gwrthderfysgaeth yn ei gartref yn Hodge Hill am 7:00 fore heddiw yn dilyn gwybodaeth a ddaeth i law’r heddlu.
Daw’r newydd wedi i dri llanc o ogledd-orllewin Llundain gael eu harestio dros y penwythnos ar amheuaeth o gynllwynio i gwblhau gweithredoedd brawychol.
Cafodd y llanciau 19 a 17 oed eu rhyddhau ar fechnïaeth heddiw wedi iddyn gael eu dal yn Nhwrci ar y ffordd i Syria.