Mae dau ddeliwr cyffuriau wedi eu carcharu am gyfanswm o 15 mlynedd wedi iddyn nhw brynu cymysgwyr bwyd mewn archfarchnad er mwyn paratoi eu cocên.
Fe wnaeth staff archfarchnad Asda gysylltu a’r heddlu wedi i Gavin Etchell a Thomas Davies brynu cymaint o’r teclynnau.
Pan aeth yr heddlu i dŷ Gavin Etchell yn Nhonypandy, fe ddaethon nhw o hyd i’r cymysgwyr yn ogystal a gwerth £300,000 o’r cyffur.
Dywedodd yr heddlu fod y ddau’n amlwg yn delio mewn symiau mawr o gocên. Daeth yr heddlu o hyd i swm sylweddol o arian parod hefyd.
Fe blediodd y ddau’n euog i gynllwynio i gyflenwi cocên yn Llys y Goron Merthyr Tudful.
Cafodd Gavin Etchell ei garcharu am naw mlynedd, a chafodd Thomas Davies ei garcharu am chwe blynedd ac wyth mis.