Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond wedi rhybuddio fod yr SNP yn barod i “ysgwyd San Steffan i’w seiliau”.
Mae polau piniwn yn darogan cryn lwyddiant i’r cenedlaetholwyr yn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7, ac mae Salmond wedi dweud y byddai’r Blaid Lafur yn ei chael yn “anodd iawn” gwrthod cefnogaeth ei blaid mewn clymblaid.
Cafodd rhannau o ddyddiaduron Salmond, ‘The Dream Shall Never Die’ eu cyhoeddi yn y Scottish Sun on Sunday.
Mae Alex Salmond yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer sedd Gordon.
Dywodd am y Blaid Lafur: “Gallan nhw wrthod ein cynnig ond fe fydden nhw’n ei gael yn anodd iawn.
“Fe wnawn ni ysgwyd San Steffan i’w seiliau.”
Yn ei ddyddiadur, mae Salmond yn beirniadu swyddogion y Trysorlys, Prif Weinidog Prydain David Cameron a’r BBC.
Dywedodd fod Cameron yn “toff Torïaidd ar daith undydd” yn dilyn ei benderfyniad i fynd i’r Alban cyn y refferendwm annibyniaeth ar Fedi 18 y llynedd.
Ac fe gyhuddodd y BBC o fod yn “imperialaidd” yn eu darllediadau o’r refferendwm.
Yn ei ddyddiadur, mae’n enwi Robert Mackie fel y swyddog o’r Trysorlys oedd wedi rhyddhau gwybodaeth i’r wasg am gynlluniau banc RBS i symud ei bencadlys i Loegr pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol.
Mae Mackie yn fab i Catherine MacLeod – cyn-gynghorydd arbennig i Alistair Darling, arweinydd yr ymgyrch ‘Na’.
Mae’r Trysorlys wedi gwadu eu bod nhw’n gyfrifol am ryddhau’r wybodaeth, ond mae Aelod Seneddol yr SNP Kenneth Gibson wedi dweud bod ganddyn nhw “gwestiynau difrifol i’w hateb”.