Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi rhybuddio bod angen cyfeiriad newydd ar bolisi economaidd.

Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiadau bod rhagor o doriadau i nifer staff yr Adran Gwaith a Phensiynau ar y gorwel.

Yn ôl y Financial Times, fe allai nifer staff yr Adran gael ei dorri o fwy na thraean o dan lywodraeth Geidwadol, tra byddai llywodraeth Lafur yn ei dorri o 20,000.

Fe allai’r fath doriadau gael effaith ar y teuluoedd mwyaf bregus yn y gymdeithas, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth.

Mae un o bob dau o ddefnyddwyr banciau bwyd yn eu defnyddio oherwydd newidiadau neu oedi yn eu budd-daliadau, meddai, gan rybuddio y byddai gostwng niferoedd staff yn achosi mwy o oedi.

Mewn datganiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr effaith gaiff pum mlynedd mwy o lymder ar deuluoedd.

“Byddai’r blaid Lafur a’r Ceidwadwyr fel ei gilydd yn parhau gydag arbrawf methiannus San Steffan o doriadau llym, a bydd yr effaith yn enbyd.”

Ychwanegodd fod y toriadau’n “greulon”.

“Mae newidiadau ac oedi i fudd-daliadau eisoes yn gyrru teuluoedd Cymreig i fanciau bwyd, ac ni wnaiff hynny ond cynyddu gyda mwy o doriadau i niferoedd staff y DWP.”