Mae’r dyn fu’n bennaf gyfrifol am drefnu angladd cyn-Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela wedi marw mewn gwrthdrawiad.

Roedd Collins Chabane yn Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus De Affrica.

Dywedodd yr Arlywydd presennol, Jacob Zuma fod ei farwolaeth yn golled fawr i’r llywodraeth ac i’r wlad.

Ychwanegodd fod Chabane wedi trefnu angladd Mandela “gydag urddas ac effeithlonrwydd”.

Roedd angladd Nelson Mandela yn cynnwys gwasanaeth coffa mewn stadiwm lle’r oedd nifer o arweinwyr gwleidyddol y byd yn bresennol.