Fe fydd rheolau’n ymwneud â blwydd-daliadau pensiynau’n cael eu cyflwyno fel rhan o Gyllideb y Canghellor George Osborne yr wythnos hon.
Yn ôl y drefn newydd, fe fydd gan bum miliwn o bensiynwyr yr hawl i elwa ar y blwydd-daliadau o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Canghellor wrth raglen Andrew Marr y BBC y byddai’n cyflwyno “Cyllideb ar gyfer y tymor hir”.
“Rhaid talu am bopeth rydyn ni’n ei wneud yn y Gyllideb hon.
“Dyna fu fy nadl ganolog o’r cychwyn.”
Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr amlinellu eu cynlluniau i leihau’r diffyg ariannol ar ôl yr etholiad cyffredinol.
“Mae’r wlad yn parhau i fenthyg gormod o arian felly rhaid i ni barhau i wneud penderfyniadau anodd.”
Bydd llacio’r rheolau ar brynu a gwerthu blwydd-daliadau’n galluogi pensiynwyr i werthu’r incwm maen nhw’n ei dderbyn trwy eu polisi heb dorri’r cytundeb gwreiddiol.
Bydd modd derbyn yr arian mewn un taliad neu’n raddol dros gyfnod o amser.
Mae disgwyl i Osborne ddileu’r dreth o hyd at 70% ar bobol sydd am werthu eu hincwm blynyddol.
‘Ymestyn y dewis’
Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain wedi croesawu’r newyddion.
Dywedodd eu cyfarwyddwr cyffredinol, Huw Evans: “Mae darparwyr yn cefnogi mwy o hyblygrwydd ar bensiynau a dewis i gwsmeriaid.
“Bydd y diwygiadau newydd hyn yn ymestyn y dewis ymhellach, ond fe fydd pobol sy’n ceisio manteisio hefyd yn wynebu cymhlethdodau sylweddol, yn enwedig ynghylch goblygiadau trethi o fanteisio ar flwydd-daliadau.
“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod y newidiadau hyn yn cael eu trafod yn gywir fel bod modd meddwl am yr heriau.”