Mae adroddiadau bod wyth o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dreisio lleian mewn ysgol Gristnogol yn nwyrain India.

Roedd y ddynes, sydd yn ei 70au, wedi ceisio atal y dynion rhag lladrata o’r ysgol, ac mi gafodd ei chludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl yr ymosodiad yn nhalaith Nadia, oddeutu 50 milltir o ddinas Kolkata.

Gwnaeth y dynion glymu dynion diogelwch gyda rhaffau cyn mynd i mewn i ystafell y lleian lle’r oedd hi’n cysgu.

Llwyddodd y dynion i ddianc gydag arian, ffôn symudol, cliniadur a chamera.

Daeth degau o fyfyrwyr, rhieni ac athrawon ynghyd yn dilyn yr ymosodiad i brotestio ac i apelio ar yr heddlu i weithredu’n gyflym er mwyn dal y sawl sy’n gyfrifol.

Mae un o uwch swyddogion y dalaith wedi galw am ymchwiliad ar y lefel uchaf i’r ymosodiad.

Yn sgil ymosodiad ar ddynes 23 oed ar fws yn 2012, cafodd deddfwriaeth newydd ei chyflwyno yn India, yn dyblu’r ddedfryd am dreisio i 20 mlynedd o garchar.

Mae hi bellach yn anghyfreithlon i’r heddlu wrthod ymchwilio i achosion o dreisio pan fyddan nhw’n derbyn cwynion.